Gwybodaeth sydd i’w hanfon i’r panel adolygu annibynnol10
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael hysbysiad oddi wrth Weinidogion Cymru bod person wedi gwneud cais am adolygiad o benderfyniad gan banel adolygu annibynnol.
2
Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, o fewn 10 niwrnod gwaith i gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), anfon y dogfennau a’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) at Weinidogion Cymru.
3
Mae’r dogfennau a’r wybodaeth a ganlyn wedi eu pennu at ddibenion paragraff (2)—
a
copi o unrhyw adroddiad a lunnir ar gyfer y panel maethu, ac unrhyw ddogfennau eraill a atgyfeirir i’r panel maethu, at ddibenion rheoliad 7, 8 neu 9 yn ôl y digwydd,
b
unrhyw wybodaeth berthnasol mewn perthynas â’r person a gafwyd gan y darparwr gwasanaethau maethu ar ôl y dyddiad y lluniwyd yr adroddiad neu yr atgyfeiriwyd y dogfennau i’r panel maethu, ac
c
copi o’r hysbysiad ac o unrhyw ddogfennau eraill a anfonir yn unol â rheoliad 8(6)(a) neu 9(7)(a).