2018 Rhif 133 (Cy. 34)
Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan baragraff 36(1)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 20171.

Yn unol ag adran 79(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) 2018.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Swm penodedig o rent perthnasol2.

Swm y rhent perthnasol a bennir o dan baragraff 36(1)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yw F1£13,500.

Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu swm y rhent perthnasol o dan baragraff 36(1)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, at ddibenion diffinio “y swm penodedig” ym mharagraffau 34 a 35 o’r Atodlen honno.

Mae rheoliad 2 yn pennu mai’r swm yw £9,000. Yn unol â hynny, pan fo’r rhent perthnasol yn gyfwerth â £9,000, neu’n fwy na hynny, nid yw trothwy’r band treth cyfradd sero mewn perthynas â chydnabyddiaeth heblaw rhent yn gymwys. Bydd unrhyw swm a fyddai wedi dod o fewn y band treth cyfradd sero hwnnw’n cael ei drin fel pe bai’n dod o fewn y band treth nesaf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.