(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu swm y rhent perthnasol o dan baragraff 36(1)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, at ddibenion diffinio “y swm penodedig” ym mharagraffau 34 a 35 o’r Atodlen honno.
Mae rheoliad 2 yn pennu mai’r swm yw £9,000. Yn unol â hynny, pan fo’r rhent perthnasol yn gyfwerth â £9,000, neu’n fwy na hynny, nid yw trothwy’r band treth cyfradd sero mewn perthynas â chydnabyddiaeth heblaw rhent yn gymwys. Bydd unrhyw swm a fyddai wedi dod o fewn y band treth cyfradd sero hwnnw’n cael ei drin fel pe bai’n dod o fewn y band treth nesaf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.