NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer targedau allyriadau interim o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na gwaelodlin 1990.

Mae adran 30 yn ei gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau er mwyn gosod targedau allyriadau interim ar gyfer y blynyddoedd 2020, 2030 a 2040. Mae’r targedau hyn yn cael eu mynegi fel canran islaw’r waelodlin.

Mae rheoliad 3 yn gosod targedau i leihau cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer blynyddoedd targed interim 2020, 2030 a 2040.

Yn unol ag adran 32 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y targedau allyriadau interim yn gyson â chyrraedd targed 2050, ac wrth ddrafftio’r Rheoliadau hyn maent wedi rhoi sylw i’r ffactorau a restrir yn adran 32(3).

Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.