2018 Rhif 1304 (Cy. 258)
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018
Gwnaed
Yn dod i rym
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20161.
Cyn i’r drafft gael ei osod, roedd Gweinidogion Cymru—
wedi eu bodloni bod pob targed allyriadau interim yn cael ei osod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, yn unol ag adran 32(1) o’r Ddeddf;
wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf; ac
wedi cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd2, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 30(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Targedau Allyriadau Interim2
1
Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2020 yw 27% islaw’r waelodlin.
2
Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2030 yw 45% islaw’r waelodlin.
3
Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2040 yw 67% islaw’r waelodlin.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)