NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu cyfanswm uchaf ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru (cyllideb garbon) am y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf, 2016-2020 a 2021-2025, y darperir ar eu cyfer yn adran 31(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau net nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na gwaelodlin ffigurau allyriadau 1990.
Mae adran 31(1) yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn gosod cyllidebau carbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o 5 mlynedd rhwng 2016 a 2050. Mae adran 32(2) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyllideb garbon a osodir gan Weinidogion Cymru gael ei gosod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd Targed 2050.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2016-2020 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 23% yn is na’r waelodlin a bod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021-2025 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 33% yn is na’r waelodlin.
Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.