2018 Rhif 1303 (Cy. 257)

Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018

Gwnaed

Yn dod i rym

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 20161.

Cyn i’r drafft gael ei osod, cafodd Gweinidogion Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac fe wnaethant ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.

Mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 32(1)(b) o’r Ddeddf, yn fodlon bod y cyllidebau carbon sydd wedi eu nodi yma yn gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050.

Wrth ddrafftio’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 32(3), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r materion a restrir yn adran 32(3) o’r Ddeddf.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 31(1) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Cyllidebau Carbon2

1

Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2016 i 2020 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 23% yn is na’r waelodlin.

2

Mae’r gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021 i 2025 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 33% yn is na’r waelodlin.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu cyfanswm uchaf ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru (cyllideb garbon) am y ddau gyfnod cyllidebol cyntaf, 2016-2020 a 2021-2025, y darperir ar eu cyfer yn adran 31(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau net nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na gwaelodlin ffigurau allyriadau 1990.

Mae adran 31(1) yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn gosod cyllidebau carbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o 5 mlynedd rhwng 2016 a 2050. Mae adran 32(2) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyllideb garbon a osodir gan Weinidogion Cymru gael ei gosod ar lefel sy’n gyson â chyrraedd Targed 2050.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2016-2020 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 23% yn is na’r waelodlin a bod y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod cyllidebol 2021-2025 wedi ei chyfyngu i gyfartaledd o 33% yn is na’r waelodlin.

Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.