(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu fformiwla ar gyfer canfod pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol sydd i’w hystyried yn allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 34(2) o’r Ddeddf yn darparu mai allyriadau Cymru yw’r rheini a allyrrir o ffynonellau yng Nghymru a’r rheini a allyrrir o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol sydd wedi eu cynnwys fel allyriadau Cymru yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 35 o’r Ddeddf.
Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.