xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Newid Yn Yr Hinsawdd, Cymru
Gwnaed
5 Rhagfyr 2018
Yn dod i rym
6 Rhagfyr 2018
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 48(3) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1).
Cyn i’r drafft gael ei osod, cafodd Gweinidogion Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac fe wnaethant ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 35 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; ac
ystyr “rhestr nwyon tŷ gwydr y DU” (“UK greenhouse gas inventory”) yw adroddiad blynyddol y DU i Gynhadledd y Partïon a gyflwynir o dan erthyglau 4 a 12 o Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd a lofnodwyd yn Efrog Newydd ar 9 Mai 1992.
3. Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso Atodlen 1 i gyfrifo pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol sy’n allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o’r Ddeddf ar gyfer —
(a)y flwyddyn sy’n flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw, a
(b)pob blwyddyn galendr rhwng 2016-2050.
4. Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso Atodlen 2 i gyfrifo pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o forgludiant rhyngwladol sy’n allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o’r Ddeddf ar gyfer —
(a)y flwyddyn sy’n flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw; a
(b)pob blwyddyn galendr rhwng 2016-2050.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2018
Rheoliad 3
yn y fformiwla hon—
“A” yw allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;
“B” yw’r swm o nwy a allyrrir gan y Deyrnas Unedig o hedfan rhyngwladol fel yr adroddir yn Rhestr Nwyon Tŷ Gwydr y DU;
“C” yw’r tanwydd a ddefnyddir i hedfan awyrennau i gyrchfannau rhyngwladol o feysydd awyr yng Nghymru;
“D” yw’r tanwydd a ddefnyddir i hedfan awyrennau i gyrchfannau rhyngwladol o feysydd awyr yn y Deyrnas Unedig.
Rheoliad 4
yn y fformiwla hon—
“F” yw allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;
“G” yw’r swm o nwy a allyrrir gan y Deyrnas Unedig o forgludiant rhyngwladol fel yr adroddir yn Rhestr Nwyon Tŷ Gwydr y DU;
“H” yw nifer y mordeithiau ar gyfer pob porthladd yng Nghymru; ac
“I” yw nifer y mordeithiau ar gyfer pob porthladd yn y Deyrnas Unedig.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu fformiwla ar gyfer canfod pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol sydd i’w hystyried yn allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 34(2) o’r Ddeddf yn darparu mai allyriadau Cymru yw’r rheini a allyrrir o ffynonellau yng Nghymru a’r rheini a allyrrir o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol sydd wedi eu cynnwys fel allyriadau Cymru yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 35 o’r Ddeddf.
Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.