Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; ac

  • ystyr “rhestr nwyon tŷ gwydr y DU” (“UK greenhouse gas inventory”) yw adroddiad blynyddol y DU i Gynhadledd y Partïon a gyflwynir o dan erthyglau 4 a 12 o Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd a lofnodwyd yn Efrog Newydd ar 9 Mai 1992.

Allyriadau o hedfan rhyngwladol sydd i’w priodoli i Gymru3

Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso Atodlen 1 i gyfrifo pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol sy’n allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o’r Ddeddf ar gyfer —

a

y flwyddyn sy’n flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw, a

b

pob blwyddyn galendr rhwng 2016-2050.

Allyriadau o forgludiant rhyngwladol sydd i’w priodoli i Gymru4

Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso Atodlen 2 i gyfrifo pa allyriadau nwyon tŷ gwydr o forgludiant rhyngwladol sy’n allyriadau Cymru at ddibenion adran 34(2) o’r Ddeddf ar gyfer —

a

y flwyddyn sy’n flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw; a

b

pob blwyddyn galendr rhwng 2016-2050.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru