Pŵer i gredydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru5
1
Caniateir credydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Caiff uned garbon ei chredydu i gyfrif allyriadau net Cymru—
a
os yw yng nghyfrif credyd Cymru;
b
os yw Gweinidogion Cymru yn datgan bod yr uned garbon wedi ei chredydu i gyfrif allyriadau net Cymru; ac
c
os, yn dilyn datganiad Gweinidog Cymru, y caiff yr uned garbon ei dileu.
3
Mewn perthynas â datganiad o dan baragraff (2)—
a
rhaid iddo ddatgan y flwyddyn y mae’r uned garbon i’w chredydu mewn cysylltiad â hi; a
b
caniateir ei wneud yn y fath fodd ac ar y cyfryw adeg y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
4
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud datganiad o dan baragraff (2) os ydynt yn credu’n rhesymol bod yr uned garbon wedi ei defnyddio i osod yn erbyn allyriadau nwyon tŷ gwydr nad ydynt yn allyriadau Cymru.