Cyfrif credyd Cymru4
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i weinyddwr y gofrestrfa agor cyfrif (“cyfrif credyd Cymru”) yng nghofrestrfa’r DU at y diben o ddal unedau carbon sydd i’w credydu i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol â rheoliad 5.
2
Rhaid defnyddio cyfrif credyd Cymru i ddal uned garbon sydd i’w chredydu i Gyfrif Allyriadau Net Cymru.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaniateir trosglwyddo unedau carbon sydd yng nghyfrif credyd Cymru allan o’r cyfrif hwnnw ac eithrio at ddibenion dileu.
4
Caiff gweinyddwr y Gofrestrfa drosglwyddo uned o garbon allan o gyfrif credyd Cymru at ddibenion ac eithrio dileu os yw wedi ei fodloni—
i
nad oes datganiad o dan reoliad 5(2) wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r uned garbon honno; a
ii
y cafodd yr uned garbon ei throsglwyddo i gyfrif credyd Cymru mewn camgymeriad.
5
Mae unrhyw uned garbon a drosglwyddwyd allan o gyfrif credyd Cymru yn unol â pharagraff (4) i’w dychwelyd i’r cyfrif y cafodd ei throsglwyddo ohono yn wreiddiol.