Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cofrestrfa’r DU” (“the UK registry”) yw’r gofrestrfa a sefydlwyd ar gyfer y Deyrnas Unedig yn unol â’r Rheoliad Cofrestrfeydd;
ystyr “Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd” (“the UNFCCC”) yw’r Confensiwn a lofnodwyd yn Efrog Newydd ar 9 Mai 1992;
mae i “cyfrif credyd Cymru” (“the Welsh credit account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(1);
mae i “gweinyddwr y gofrestrfa” yr ystyr a roddir i “the registry administrator” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau’r Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 20122;
ystyr “Protocol Kyoto” (“Kyoto Protocol”) yw Protocol Kyoto Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd a lofnodwyd yn Kyoto ar 11 Rhagfyr 1997;
ystyr “y Rheoliad Cofrestrfeydd” (“the Registries Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 389/2013 sy’n sefydlu Cofrestrfa yr Undeb yn unol â Chyfarwyddeb 2003/87/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Penderfyniadau Rhif 280/2004/EC a Rhif 406/2009/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EU) Rhif 920/2010 a Rhif 1193/20113.
2
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “dileu” uned garbon yw dileu’n wirfoddol yn unol â’r Rheoliad Cofrestrfeydd, a chaiff uned ei “dileu” os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i weinyddwr y gofrestrfa ei throsglwyddo i’r cyfrif o’r enw’r “Cyfrif Dileu Gwirfoddol” yng nghofrestrfa’r DU.