Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018
Cyn i’r drafft gael ei osod, cafodd Gweinidogion Cymru gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, ac fe wnaethant ystyried y cyngor a gafwyd, yn unol ag adran 49(1) o’r Ddeddf.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 33(2) a (3) a 36(1), (2) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cofrestrfa’r DU” (“the UK registry”) yw’r gofrestrfa a sefydlwyd ar gyfer y Deyrnas Unedig yn unol â’r Rheoliad Cofrestrfeydd;
ystyr “Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd” (“the UNFCCC”) yw’r Confensiwn a lofnodwyd yn Efrog Newydd ar 9 Mai 1992;
mae i “cyfrif credyd Cymru” (“the Welsh credit account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(1);
ystyr “Protocol Kyoto” (“Kyoto Protocol”) yw Protocol Kyoto Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd a lofnodwyd yn Kyoto ar 11 Rhagfyr 1997;
(2)
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “dileu” uned garbon yw dileu’n wirfoddol yn unol â’r Rheoliad Cofrestrfeydd, a chaiff uned ei “dileu” os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i weinyddwr y gofrestrfa ei throsglwyddo i’r cyfrif o’r enw’r “Cyfrif Dileu Gwirfoddol” yng nghofrestrfa’r DU.
Unedau carbon3.
(1)
At ddibenion Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gostyngiadau allyriadau ardystiedig yn unedau carbon.
(2)
Mae i bob uned garbon swm cyfwerth ag 1 dunnell o garbon deuocsid.
(3)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “gostyngiad allyriad ardystiedig” yw uned a ddyroddwyd o dan Erthygl 12 o Brotocol Kyoto a’r penderfyniadau a fabwysiadwyd o dan Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd neu Brotocol Kyoto.
Cyfrif credyd Cymru4.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i weinyddwr y gofrestrfa agor cyfrif (“cyfrif credyd Cymru”) yng nghofrestrfa’r DU at y diben o ddal unedau carbon sydd i’w credydu i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol â rheoliad 5.
(2)
Rhaid defnyddio cyfrif credyd Cymru i ddal uned garbon sydd i’w chredydu i Gyfrif Allyriadau Net Cymru.
(3)
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaniateir trosglwyddo unedau carbon sydd yng nghyfrif credyd Cymru allan o’r cyfrif hwnnw ac eithrio at ddibenion dileu.
(4)
Caiff gweinyddwr y Gofrestrfa drosglwyddo uned o garbon allan o gyfrif credyd Cymru at ddibenion ac eithrio dileu os yw wedi ei fodloni—
(i)
nad oes datganiad o dan reoliad 5(2) wedi ei wneud mewn cysylltiad â’r uned garbon honno; a
(ii)
y cafodd yr uned garbon ei throsglwyddo i gyfrif credyd Cymru mewn camgymeriad.
(5)
Mae unrhyw uned garbon a drosglwyddwyd allan o gyfrif credyd Cymru yn unol â pharagraff (4) i’w dychwelyd i’r cyfrif y cafodd ei throsglwyddo ohono yn wreiddiol.
Pŵer i gredydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru5.
(1)
Caniateir credydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru yn unol â’r rheoliad hwn.
(2)
Caiff uned garbon ei chredydu i gyfrif allyriadau net Cymru—
(a)
os yw yng nghyfrif credyd Cymru;
(b)
os yw Gweinidogion Cymru yn datgan bod yr uned garbon wedi ei chredydu i gyfrif allyriadau net Cymru; ac
(c)
os, yn dilyn datganiad Gweinidog Cymru, y caiff yr uned garbon ei dileu.
(3)
Mewn perthynas â datganiad o dan baragraff (2)—
(a)
rhaid iddo ddatgan y flwyddyn y mae’r uned garbon i’w chredydu mewn cysylltiad â hi; a
(b)
caniateir ei wneud yn y fath fodd ac ar y cyfryw adeg y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(4)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud datganiad o dan baragraff (2) os ydynt yn credu’n rhesymol bod yr uned garbon wedi ei defnyddio i osod yn erbyn allyriadau nwyon tŷ gwydr nad ydynt yn allyriadau Cymru.
Cofrestr o drafodiadau6.
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr sy’n cynnwys gwybodaeth am yr unedau carbon i’w credydu i gyfrif allyriadau net Cymru o dan y Rheoliadau hyn.
(2)
Mewn perthynas ag unedau carbon a gredydir o dan reoliad 5(2), rhaid i’r gofrestr gynnwys y manylion a ganlyn—
(a)
y dyddiad dileu;
(b)
y dyddiad trosglwyddo i gyfrif credyd Cymru;
(c)
dyddiad unrhyw ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5(2);
(d)
y flwyddyn y mae’r unedau i’w credydu ynddi;
(e)
swm yr unedau a gredydir.
Dirprwyo swyddogaethau7.
Caiff Gweinidogion Cymru ddirprwyo i berson y gwaith o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir iddynt neu a osodir arnynt gan y Rheoliadau hyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifyddu carbon ac unedau carbon at ddibenion cyfrifo cyfrif allyriadau net Cymru o dan Ran 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Diben Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yw ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyrraedd targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru. Mae adran 29 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer y flwyddyn 2050 o leiaf 80% yn is na gwaelodlin 1990. Mae adran 33 yn darparu mai cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer cyfnod yw swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr, minws unrhyw unedau carbon a gredydir i’r cyfrif a phlws unrhyw unedau carbon a ddidynnir o’r cyfrif yn ystod y cyfnod.
Mae rheoliad 3 yn diffinio pa unedau carbon y caiff eu cynnwys yng nghyfrif allyriadau net Cymru.
Mae rheoliad 4 yn galluogi Gweinidogion Cymru i agor “cyfrif credyd Cymru” ac yn darparu bod rhaid i unrhyw uned garbon sydd i’w chredydu i gyfrif allyriadau net Cymru gael ei chadw yn y cyfrif hwnnw. Ar ôl i uned garbon gael ei lleoli yng nghyfrif credyd Cymru, ni ellir ond ei thynnu allan eto er mwyn ei dileu, oni bai bod gweinyddwr y gofrestrfa wedi ei fodloni bod amodau penodol wedi eu diwallu.
Mae rheoliad 5 yn amlinellu’r ffordd y caniateir credydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru. Rhaid eu cadw yng nghyfrif credyd Cymru a rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan eu bod wedi eu credydu yn unol â rheoliad 5. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol trosglwyddo i’r “Cyfrif Dileu Gwirfoddol”.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr sy’n cynnwys manylion yr unedau carbon a gredydir i gyfrif allyriadau net Cymru ac a ddidynnir ohono ynghyd â manylion yr unedau carbon sydd wedi eu dileu yn unol â rheoliad 4.
Yn unol ag adran 49 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyngor gan y corff cynghori, ac wedi ystyried y cyngor a gafwyd, cyn gosod rheoliadau drafft.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.