RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009I18
1
Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 200932 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 20, cyn paragraff (1), mewnosoder—
A1
Pan fo gweithredwr cyfrifol wedi cael hysbysiad oddi wrth yr awdurdod gorfodi o dan reoliad 18, rhaid iddo, yn ddi-oed, canfod mesurau adfer posibl yn unol ag Atodlen 4, a chyflwyno’r mesurau hynny yn ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi i’w cymeradwyo ganddo.
3
Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 5 rhodder—
5
1
Nid yw difrod i rywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol ag—
a
Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 199433;
b
Rheoliadau Gweithgarwch Petrolewm Alltraeth (Cadwraeth Cynefinoedd) 200134;
c
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 201035;
d
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 201736;
e
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 201737.
2
Nid yw difrod i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys, yn achos safle nad yw’n safle Ewropeaidd, difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 198138.
3
Yn is-baragraff (2), mae i “safle Ewropeaidd” yr un ystyr ag a roddir i “European site” yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.