RHAN 5Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009I135

1

Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009104 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2, yn y lle priodol, mewnosoder—

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012” (“Commission Regulation (EU) No 200/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012 dyddiedig 8 Mawrth 2012 ynghylch targed yr Undeb ar gyfer lleihau nifer yr achosion o Salmonella enteritidis a Salmonella typhimurium mewn heidiau o frwyliaid, fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor 105.

3

Yn erthygl 3, yn lle paragraff (a) rhodder—

a

Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012;

4

Yn erthygl 5(1)—

a

yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”;

b

yn lle “phwynt 3.1” rhodder “phwynt 2.2.4”;

c

yn lle “express post” rhodder “express mail”.

5

Yn erthygl 8, yn lle “Reoliad (EC) Rhif 646/2007” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 200/2012”.