RHAN 4Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth

Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009I123

Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 200970, yn lle’r diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) rhodder—

  • Ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol71, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;