RHAN 3Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chynllunio
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017I120
1
Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 201763 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 1, ym mharagraffau 9 a 10, yn lle “Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC” rhodder “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997,”.
3
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn rhes 3(g) o golofn 2 o’r tabl, ym mharagraff (ii), yn lle “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010” rhodder “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016”.