RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd
Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994I12
1
Mae Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 199419 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(1)—
a
yn y diffiniad o “the Directive”, ar ôl “treatment,” mewnosoder “as last amended by Regulation (EC) No 1137/2008 of the European Parliament and of the Council20,”;
b
yn y geiriau ar ôl y diffiniad o “Wales”, ar ôl “used” mewnosoder “in these Regulations and”.
3
Yn Atodlen 1, yn Rhan 1, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “the concentration” hyd at “Member States” rhodder “50 mg/l of nitrates in 95% of the samples”.