RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013I113

1

Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 201347 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 6, yn y diffiniad o “rhanddirymiad” (“derogation”), hepgorer “a Phenderfyniad y Comisiwn 2013/781/EU”.

3

Yn rheoliad 11(2)(b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/178748”.

4

Yn rheoliad 22(2)(a)(ii), ar y diwedd mewnosoder “, neu Reoliad (EU) 1305/201349”.