RHAN 2Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011I110

Yn erthygl 3(4) o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 201142

a

yn is-baragraff (b), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17(EU)43”;

b

yn is-baragraff (c), ar ôl “polisi dŵr” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU”;

c

ar ôl is-baragraff (c) hepgorer “a”;

d

yn is-baragraff (ch), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU”.