NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran Cymru i nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r amgylchedd, cynllunio a materion gwledig.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 18(6) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391) i derfynu cymhwysiad adran 53 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 32) (eithrio rhag dyletswydd i gydymffurfio â hysbysiad o benderfyniad neu hysbysiad gorfodi) i’r Rheoliadau hynny. Mae hyn yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn R (on the application of Evans) and another v Attorney General [2015] UKSC 21 bod dyroddi unrhyw dystysgrif o dan reoliad 18(6) mewn cysylltiad â gwybodaeth amgylcheddol yn anghydnaws ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2003/4/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fynediad y cyhoedd at wybodaeth amgylcheddol (OJ Rhif L 41, 14.2.2003, t. 26).

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 20 o Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/995 (Cy. 81)) (“Rheoliadau 2009”) i’w gwneud yn ofynnol i weithredwyr ganfod mesurau adfer posibl a’u cyflwyno i’r awdurdod gorfodi. Mae rheoliad 8 hefyd yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2009 i sicrhau y caiff Cyfarwyddeb 2004/35/EC (OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56) ei throsi’n briodol. Mae’r diwygiad yn mynd i’r afael â difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol sydd hefyd yn Safle Ewropeaidd (fel y’i diffinnir yn rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (O.S. 2017/1012)). Mae’r diwygiad yn darparu nad yw difrod a achosir gan weithred a awdurdodir yn benodol gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) (“Deddf 1981”) wedi ei eithrio’n awtomatig rhag cwmpas Rheoliadau 2009. Bydd difrod o’r fath yn parhau i gael ei eithrio os rhoddwyd yr awdurdodiad o dan Ddeddf 1981 yn unol â deddfwriaeth sy’n trosi Cyfarwyddeb y Cyngor 92/42/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7).

Mae rheoliad 15 yn diwygio Rheoliadau Tynnu Dŵr (Darpariaethau Trosiannol) 2017 (O.S. 2017/1047) i gywiro gwall yn y disgrifiad o ba amgylchiadau y mae’n gymwys i roi trwydded tynnu dŵr fwy cyfyngedig oddi tanynt na’r drwydded y gwnaed cais amdani.

Mae’r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau amrywiol eraill i ddeddfwriaeth ym meysydd amaethyddiaeth, iechyd a lles anifeiliaid, diogelu’r amgylchedd, pysgodfeydd môr, hadau, cynllunio gwlad a thref, gwastraff a dŵr, yn enwedig diwygio cyfeiriadau sydd wedi dyddio at ddeddfwriaeth Ewropeaidd mewn deddfwriaeth ddomestig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.