ATODLEN 3Cofnodion: carcasau buchol

Rheoliad 11

1

Canlyniadau’r dosbarthu.

2

Rhif cymeradwyo’r lladd-dy.

3

Rhif lladdiad neu rif cigydda yr anifail y cafwyd y carcas ohono, fel y’i dyrannwyd gan y gweithredwr.

4

Dyddiad y cigydda.

5

Pwysau cynnes y carcas ynghyd â nodyn o’r canlynol—

a

unrhyw addasiad a wnaed ar gyfer pwysau oer y carcas, a

b

unrhyw gyfernod a gymhwyswyd.

6

Y fanyleb trin a ddefnyddiwyd.

7

Cofnod bod y cyfathrebiad rhagnodedig wedi ei wneud.

8

Enw, llofnod a rhif cyfresol trwydded ddosbarthu’r person a ymgymerodd â’r dosbarthu.