RHAN 3CARCASAU BUCHOL

Trwydded ar gyfer graddio awtomataidd9

1

Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i weithredwr lladd-dy cymeradwy i awdurdodi defnyddio offer graddio awtomataidd i ddosbarthu carcasau buchol yn y lladd-dy hwnnw, os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddai’r offer a’i ddull gweithredu yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Erthyglau 9(b) a 10(2) (o’u darllen gyda Rhan A o Atodiad IV) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn.

2

Caniateir i’r drwydded gael ei rhoi yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae eu hangen er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r safonau hynny.

3

Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i weithredwr o dan y rheoliad hwn—

a

os yw’r gweithredwr wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau neu amodau’r drwydded; neu

b

os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r offer graddio awtomataidd mwyach yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, pa un ai am resymau sy’n gysylltiedig â’r offer ei hun neu’r modd y defnyddir yr offer gan y gweithredwr.

4

Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru—

a

hysbysu’r person am y penderfyniad mewn ysgrifen;

b

rhoi’r rhesymau; ac

c

esbonio bod yna hawl i apelio i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.