RHAN 3CARCASAU BUCHOL
Trwydded i ymgymryd â dosbarthu8
1
Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol drwy edrych arnynt i unrhyw berson sy’n gwneud cais am drwydded o’r fath ac sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn gymwys i ymgymryd â’r dosbarthu, os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y ceisydd yn berson addas a phriodol i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.
2
Caniateir i’r drwydded gael ei rhoi yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion paragraff (1).
3
Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (dosbarthiadau, cyflwyniadau neu adnabyddiadau anghywir), caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i berson o dan y rheoliad hwn—
a
os yw’r person wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau neu amodau’r drwydded honno; neu
b
os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r person sy’n dal y drwydded honno yn berson addas a phriodol mwyach i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.
4
Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
hysbysu’r person am y penderfyniad mewn ysgrifen;
b
rhoi’r rhesymau; ac
c
esbonio bod yna hawl i apelio i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.