RHAN 3CARCASAU BUCHOL
Cymhwyso’r Rheoliadau hyn at weithredwyr buchol ar raddfa fach6
1
Nid yw’n ofynnol i weithredwr buchol ar raddfa fach ddosbarthu carcasau buchol.
2
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr buchol ar raddfa fach nad yw’n dosbarthu carcasau buchol.
3
Ond, os bydd gweithredwr buchol ar raddfa fach yn dewis dosbarthu carcasau buchol, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr hwnnw ac mewn perthynas â dosbarthu’r carcasau hynny.
4
Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr buchol ar raddfa fach” yw gweithredwr lladd-dy cymeradwy lle y mae llai na 150 o anifeiliaid buchol llawn-dwf yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.
5
Ni fernir bod unrhyw weithredwr buchol ar raddfa fach yr oedd yn ofynnol iddo, nes i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ddosbarthu carcasau buchol o dan Reoliadau 2011 wedi dewis gwneud hynny at ddibenion paragraff (3) am y rheswm hwnnw yn unig.
6
Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n rhwystro’r Rheoliadau hyn rhag cael eu cymhwyso at weithredwr mewn perthynas â charcasau moch, os oes moch hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy’r gweithredwr hwnnw.