RHAN 2HYSBYSU GAN WEITHREDWYR
Hysbysu gan weithredwyr5
1
Rhaid i bob person—
a
sy’n weithredwr ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, neu
b
sy’n dod yn weithredwr ar ddyddiad dilynol,
roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r manylion a bennir ym mharagraff (3) o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y daw’r person hwnnw’n weithredwr, yn ôl y digwydd.
2
Bernir bod person—
a
sydd wedi rhoi hysbysiad, neu y barnwyd ei fod wedi rhoi hysbysiad, o dan reoliad 5(1) neu (2) o Reoliadau 2011, a
b
y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn rhinwedd rheoliad 6 neu 12,
wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff (1).
3
Dyma’r manylion ym mharagraff (1)—
a
enw a chyfeiriad llawn y gweithredwr;
b
pan fo’r gweithredwr yn bartneriaeth neu’n gydberchnogion, enwau a chyfeiriadau llawn pob un o’r partneriaid neu’r cydberchnogion;
c
pan fo’r gweithredwr yn gorff corfforaethol, enw llawn, cyfeiriad swyddfa gofrestredig a rhif cofrestru’r corff; a
d
cyfeiriad, rhif teleffon a rhif cymeradwyo’r lladd-dy.
4
Pan fo unrhyw newid yn digwydd mewn unrhyw un neu ragor o’r manylion a bennir ym mharagraff (3), rhaid i’r gweithredwr, o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y newid, roi hysbysiad o fanylion y newid i Weinidogion Cymru.
5
Pan fo gweithredwr (“G”) yn peidio â bod yn weithredwr lladd-dy cymeradwy, rhaid i G, o fewn 10 niwrnod i’r dyddiad y peidiodd â bod yn weithredwr o’r fath, roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r canlynol—
a
y dyddiad y peidiodd â bod yn weithredwr o’r fath; a
b
y person (os oes un) sy’n olynu G fel gweithredwr y lladd-dy hwnnw.
6
Pan fo lladd-dy cymeradwy’n peidio â bod yn lladd-dy o’r fath, rhaid i weithredwr y lladd-dy, o fewn 10 niwrnod i’r dyddiad y peidiodd â bod yn lladd-dy o’r fath, roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r dyddiad y peidiodd â bod yn lladd-dy o’r fath.