RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU
Troseddau: cosbi36
1
Mae person sy’n euog o drosedd o dan y canlynol—
a
rheoliad 20(3) (hysbysiadau gorfodi),
b
rheoliad 26 (darpariaethau eidion Ewropeaidd),
c
rheoliad 27 (darpariaethau moch Ewropeaidd),
d
rheoliad 28 (hysbysiadau gan weithredwyr),
e
rheoliad 29 (trwyddedau (carcasau buchol)),
f
rheoliad 30 (dulliau graddio awdurdodedig: (carcasau moch)),
g
rheoliad 31(1) (cofnodion), neu
h
rheoliad 32 (rhwystro etc.),
yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
2
Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 31(2) neu (3) (marciau camarweiniol etc.) yn agored—
a
o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy; neu
b
o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.