RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU
Troseddau: rhwystro etc.32
Mae unrhyw berson—
a
sydd heb esgus rhesymol, yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn,
b
sydd heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’r person hwnnw yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn,
c
sy’n rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol, neu
d
sy’n methu â dangos unrhyw ddogfen neu gofnod pan fo unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny,
yn euog o drosedd.