RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU

Troseddau: cofnodion a marciau31

1

Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion rheoliad 11 (cofnodion: carcasau buchol) neu reoliad 16 (cofnodion: carcasau moch) yn euog o drosedd.

2

Mae unrhyw berson sy’n marcio carcas buchol neu ran o garcas o’r fath—

a

fel y rhagnodir gan Erthygl 8(1), (2)(a), (3)(a) (o’u darllen gydag ail baragraff Erthygl 8(3)), (4) a (5) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu

b

mewn modd sy’n debyg iawn i’r marc a ragnodir yn y darpariaethau hynny,

sy’n debygol o gamarwain, yn euog o drosedd.

3

Mae unrhyw berson sy’n marcio carcas mochyn neu ran o garcas o’r fath—

a

fel y rhagnodir gan Erthygl 8(1), (2)(b), (3)(c) (o’u darllen gydag ail baragraff Erthygl 8(3)), (4) a (5) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu

b

mewn modd sy’n debyg iawn i’r marc a ragnodir yn y darpariaethau hynny,

sy’n debygol o gamarwain, yn euog o drosedd.