RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU

Troseddau: trwyddedau (carcasau buchol)29

1

Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy—

a

heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8, neu

b

gan dorri unrhyw un neu ragor o amodau neu delerau trwydded o’r fath,

mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.

2

Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio offer graddio awtomataidd—

a

heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9 i ddefnyddio’r offer hwnnw yn y lladd-dy hwnnw, neu

b

gan dorri unrhyw un neu ragor o amodau neu delerau trwydded o’r fath,

mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu hwnnw a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.

3

Mae unrhyw berson sy’n gwneud newid mewn trwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8 neu 9 yn euog o drosedd.