RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU

Troseddau: darpariaethau moch Ewropeaidd27

1

Mae unrhyw berson sydd—

a

yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth moch Ewropeaidd; neu

b

yn torri unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth moch Ewropeaidd,

yn euog o drosedd.

2

Ond pan fydd gweithredwr neu’r person sy’n gyfrifol am ddosbarthu carcasau moch yn llunio cofnod gan gydymffurfio â’r amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 15 (cofnodion yn lle marcio) ni chyflawnir trosedd drwy fethu â chydymffurfio â darpariaeth moch Ewropeaidd Rhan 2 neu drwy ei thorri.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr, “darpariaeth moch Ewropeaidd Rhan 2” yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Ran 2 o Atodlen 2.