RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU
Tynnu hysbysiad cosb yn ôl25
1
Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu na ddylai fod wedi ei roi (pa un ai i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, neu fel arall).
2
Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru drwy roi hysbysiad i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb cyn i’r gosb gael ei thalu neu ar ôl i’r gosb gael ei thalu.
3
Pan dynnir hysbysiad cosb yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw gosb a dalwyd o dan yr hysbysiad cosb i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb o fewn 28 diwrnod, gan gychwyn gyda’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad bod yr hysbysiad cosb wedi ei dynnu’n ôl.