RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU

Cyfyngiad ar ddwyn achos am drosedd cosb23

1

Pan fo hysbysiad cosb wedi ei roi i berson—

a

ni chaniateir dwyn achos yn erbyn y person hwnnw am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad; a

b

ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw am y drosedd os telir y gosb yn unol â rheoliad 24 cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys os tynnir yr hysbysiad cosb yn ôl yn unol â rheoliad 25.