RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU
Hysbysiadau cosb22
1
Os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad (“hysbysiad cosb”) i’r person hwnnw yn unol â pharagraffau (2) a (3).
2
Caiff hysbysiad cosb fod am unrhyw swm.
3
Rhaid i hysbysiad cosb—
a
rhoi unrhyw fanylion am amgylchiadau’r drosedd honedig sy’n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol am y drosedd;
b
datgan swm y gosb;
c
datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 23, na chychwynnir achos ynglŷn â’r drosedd;
d
datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu’r gosb; ac
e
datgan ym mha fodd y caniateir i’r taliad gael ei wneud.