RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU

Hysbysiadau gorfodi20

1

Os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw yn unol â pharagraff (2).

2

Rhaid i hysbysiad gorfodi—

a

datgan ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru’n credu bod trosedd wedi ei chyflawni;

b

pennu’r mater sy’n cyfansoddi’r drosedd;

c

pennu’r hyn y mae’n rhaid i’r person hwnnw beidio â’i wneud, neu’r mesurau y mae’n rhaid, ym marn Gweinidogion Cymru, i’r person hwnnw eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn;

d

ei gwneud yn ofynnol i’r person beidio â chyflawni’r weithred a bennir yn yr hysbysiad, neu gymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â’r rheiny, o fewn y cyfnod (nad yw’n llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad;

e

hysbysu’r person am yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 21; ac

f

hysbysu’r person o fewn pa gyfnod y caniateir i apêl o’r fath gael ei gwneud.

3

Mae unrhyw berson sy’n torri hysbysiad gorfodi neu’n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o drosedd.