RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU
Pwerau swyddogion awdurdodedig19
Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan y Rheoliadau hyn—
a
arolygu unrhyw garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath, neu unrhyw garcas neu ran o garcas y mae’r swyddog yn amau’n rhesymol ei fod yn garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath;
b
archwilio unrhyw gofnod y mae’n ofynnol i weithredwr ei gadw o dan reoliad 11 neu 16 neu o dan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn neu Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, a phan ddefnyddir cyfrifiadur i gadw’r cofnod hwnnw, cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig, a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r cofnod hwnnw, ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfryw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig;
c
ei gwneud yn ofynnol i gopïau neu ddarnau o unrhyw gofnod o’r fath gael eu dangos a, pan ddefnyddir cyfrifiadur i gadw’r cofnod hwnnw, ei gwneud yn ofynnol i’r cofnod gael ei ddangos ar ffurf a fydd yn caniatáu iddo gael ei gludo ymaith; a
d
dal gafael ar unrhyw gofnod o’r fath y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gall fod yn angenrheidiol fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.