RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU
Pwerau mynediad18
1
Caiff swyddog awdurdodedig, ar unrhyw adeg resymol ac, os gofynnir iddo, ar ôl dangos awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i ladd-dy cymeradwy ac unrhyw fangre gysylltiedig, lle y gall carcasau fod yn cael eu trin, neu lle y gall cofnodion ynglŷn â’r carcasau hynny fod yn cael eu cadw, er mwyn canfod—
a
a oes unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn cael, neu wedi cael, ei chyflawni yn y fangre; neu
b
a oes unrhyw dystiolaeth yn y fangre o unrhyw drosedd o’r fath.
2
Caiff y swyddog fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol gydag ef.
3
Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre, drwy rym rhesymol os bydd angen hynny, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
a
bod sail resymol dros fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1); a
b
bod unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
i
bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu y rhagwelir y caiff ei wrthod, ac (yn y naill achos neu’r llall) fod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r gweithredwr;
ii
y byddai gwneud cais am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;
iii
bod yr achos yn achos brys; neu
iv
bod y fangre’n wag neu fod y gweithredwr yn absennol dros dro,
4
Mae gwarant a ganiateir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am dri mis.
5
Rhaid i swyddog sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag, neu fangre sydd â’i gweithredwr yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i’r swyddog fynd i mewn.