RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU

Hysbysiadau17

1

Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi, neu yr awdurdodir ei roi, i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen.

2

Caniateir i unrhyw hysbysiad o’r fath gael ei roi—

a

drwy ei drosglwyddo i’r person;

b

drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu

c

drwy ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.

3

Pan fo unrhyw hysbysiad o’r fath i gael ei roi i gorff corfforaethol, caniateir iddo gael ei roi i un o swyddogion y corff.

4

At ddiben y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i gael ei roi iddo yw cyfeiriad hysbys olaf y person hwnnw, ac eithrio mai’r cyfeiriad priodol, yn achos corff corfforaethol neu un o swyddogion y corff, yw cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw.

5

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol; ac

  • ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff corfforaethol.