RHAN 4CARCASAU MOCH
Esemptiad i weithredwyr moch ar raddfa fach12
1
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr lladd-dy cymeradwy lle y mae llai na 500 o foch glân yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.
2
Nid oes dim ym mharagraff (1) sy’n rhwystro’r Rheoliadau hyn rhag cael eu cymhwyso at weithredwr mewn perthynas â charcasau buchol, os oes anifeiliaid buchol llawn-dwf hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy’r gweithredwr hwnnw.
Awdurdod cymwys: carcasau moch13
1
Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion y canlynol—
a
Erthygl 7(4) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (dosbarthu a phwyso);
b
Erthygl 12(2)(b) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau ychwanegol ar ddosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd);
c
Erthyglau 13 a 14 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn ac Erthygl 14 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (hysbysu prisiau’r farchnad a chyfrifo pris cyfartalog pob dosbarth);
d
Erthygl 17(2) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau atodol ar hysbysu prisiau marchnad carcasau);
e
Erthygl 4(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (gwneud a chadw adroddiadau ar gyfer gwiriadau yn y fan a’r lle).
2
Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am y canlynol—
a
Erthygl 11 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (awdurdodi dulliau graddio awtomataidd);
b
Erthygl 25 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (hysbysu’r Comisiwn);
c
gwiriadau yn y fan a’r lle, yn unol â’r disgrifiad o “on-the-spot checks” yn Erthyglau 2 a 3 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn.
Dulliau graddio awdurdodedig14
1
Rhaid ymgymryd â dosbarthu carcasau moch mewn lladd-dy cymeradwy—
a
drwy ddefnyddio dull graddio awdurdodedig y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 11 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn; a
b
drwy ddefnyddio technegau graddio y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 11 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn a’r rheiny’n cael eu gweithredu gan bersonél cymwys.
2
Yn y rheoliad hwn, mae “personél cymwys” yn cyfeirio at unrhyw berson sy’n hyfedr wrth ddefnyddio’r offer a’r technegau graddio sy’n cael eu gweithredu gan y person hwnnw.
Cofnodion yn lle marcio15
Caiff gweithredwr neu’r person sy’n gyfrifol am ddosbarthu moch, yn hytrach na marcio carcas yn unol â’r darpariaethau moch Ewropeaidd a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 2, lunio cofnod ar gyfer y carcas hwnnw sy’n cynnwys o leiaf—
a
modd i adnabod y carcas yn unigol drwy unrhyw ddull nad oes modd ei newid;
b
pwysau cynnes y carcas; ac
c
canlyniad y dosbarthiad.
Cofnodion: carcasau moch16
1
Rhaid i weithredwr lladd-dy cymeradwy gadw cofnod o’r manylion a bennir yn Atodlen 4 ynglŷn â phob carcas mochyn a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.
2
Rhaid i’r gweithredwr ddal gafael ar bob cofnod am gyfnod o 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn berthynol iddi.