RHAN 3CARCASAU BUCHOL

Cymhwyso’r Rheoliadau hyn at weithredwyr buchol ar raddfa fach6

1

Nid yw’n ofynnol i weithredwr buchol ar raddfa fach ddosbarthu carcasau buchol.

2

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr buchol ar raddfa fach nad yw’n dosbarthu carcasau buchol.

3

Ond, os bydd gweithredwr buchol ar raddfa fach yn dewis dosbarthu carcasau buchol, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr hwnnw ac mewn perthynas â dosbarthu’r carcasau hynny.

4

Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr buchol ar raddfa fach” yw gweithredwr lladd-dy cymeradwy lle y mae llai na 150 o anifeiliaid buchol llawn-dwf yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.

5

Ni fernir bod unrhyw weithredwr buchol ar raddfa fach yr oedd yn ofynnol iddo, nes i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ddosbarthu carcasau buchol o dan Reoliadau 2011 wedi dewis gwneud hynny at ddibenion paragraff (3) am y rheswm hwnnw yn unig.

6

Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n rhwystro’r Rheoliadau hyn rhag cael eu cymhwyso at weithredwr mewn perthynas â charcasau moch, os oes moch hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy’r gweithredwr hwnnw.

Awdurdodau cymwys: carcasau buchol7

1

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

a

Erthygl 12(2)(b) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau ychwanegol ar ddosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd);

b

Erthyglau 13 a 14 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn ac Erthygl 14 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (hysbysu prisiau’r farchnad a chyfrifo pris cyfartalog pob dosbarth);

c

Erthygl 17(2) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau atodol ar hysbysu prisiau marchnad carcasau);

d

Erthygl 4(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (gwneud a chadw adroddiadau ar gyfer gwiriadau yn y fan a’r lle).

2

Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am y canlynol—

a

Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (awdurdodi dulliau graddio awtomataidd);

b

Erthygl 25 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (hysbysu’r Comisiwn);

c

gwiriadau yn y fan a’r lle, yn unol â’r disgrifiad o “on-the-spot checks” yn Erthyglau 2 a 3 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn.

Trwydded i ymgymryd â dosbarthu8

1

Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol drwy edrych arnynt i unrhyw berson sy’n gwneud cais am drwydded o’r fath ac sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn gymwys i ymgymryd â’r dosbarthu, os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y ceisydd yn berson addas a phriodol i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.

2

Caniateir i’r drwydded gael ei rhoi yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion paragraff (1).

3

Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (dosbarthiadau, cyflwyniadau neu adnabyddiadau anghywir), caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i berson o dan y rheoliad hwn—

a

os yw’r person wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau neu amodau’r drwydded honno; neu

b

os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r person sy’n dal y drwydded honno yn berson addas a phriodol mwyach i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.

4

Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru—

a

hysbysu’r person am y penderfyniad mewn ysgrifen;

b

rhoi’r rhesymau; ac

c

esbonio bod yna hawl i apelio i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

Trwydded ar gyfer graddio awtomataidd9

1

Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i weithredwr lladd-dy cymeradwy i awdurdodi defnyddio offer graddio awtomataidd i ddosbarthu carcasau buchol yn y lladd-dy hwnnw, os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddai’r offer a’i ddull gweithredu yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Erthyglau 9(b) a 10(2) (o’u darllen gyda Rhan A o Atodiad IV) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn.

2

Caniateir i’r drwydded gael ei rhoi yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae eu hangen er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r safonau hynny.

3

Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i weithredwr o dan y rheoliad hwn—

a

os yw’r gweithredwr wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau neu amodau’r drwydded; neu

b

os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r offer graddio awtomataidd mwyach yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, pa un ai am resymau sy’n gysylltiedig â’r offer ei hun neu’r modd y defnyddir yr offer gan y gweithredwr.

4

Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru—

a

hysbysu’r person am y penderfyniad mewn ysgrifen;

b

rhoi’r rhesymau; ac

c

esbonio bod yna hawl i apelio i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

Apelau ynghylch trwyddedau10

1

Caniateir i berson apelio yn erbyn—

a

penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cais gan y person hwnnw am drwydded o dan reoliad 8 neu 9;

b

teler neu amod a osodwyd gan Weinidogion Cymru mewn trwydded a ganiatawyd i’r person hwnnw o dan reoliad 8 neu 9; neu

c

penderfyniad gan Weinidogion Cymru i atal dros dro neu ddirymu trwydded o dan reoliad 8 neu 9.

2

Rhaid i’r apêl gael ei gwneud i berson a benodir at y diben gan Weinidogion Cymru.

3

Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person a benodir ynglŷn â’r penderfyniad.

4

Rhaid i’r person a benodir ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru gyda’i gasgliadau ar yr apêl ac argymhelliad ar sut y dylai’r mater gael ei benderfynu’n derfynol gan Weinidogion Cymru.

5

Wedyn rhaid i Weinidogion Cymru gyrraedd penderfyniad terfynol, a hysbysu’r person a wnaeth yr apêl am y penderfyniad hwnnw a’r rhesymau drosto.

Cofnodion: carcasau buchol11

1

Rhaid i weithredwr lladd-dy cymeradwy gadw cofnod o’r manylion a bennir yn Atodlen 3 ynglŷn â phob carcas buchol a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.

2

Rhaid i’r gweithredwr ddal gafael ar bob cofnod am gyfnod o 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn berthynol iddi.