xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1826 (Cy. 198)) (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i ddiddymu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1249/2008 (OJ Rhif L 337, 16.12.2008, t. 3).

Mae’r Rheoliadau’n gorfodi’r canlynol—

Mae’r Rheoliadau’n ymwneud â charcasau anifeiliaid buchol llawn-dwf (sef anifeiliaid sy’n wyth mis oed neu ragor) a moch.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr lladd-dai sy’n cigydda anifeiliaid buchol llawn-dwf neu foch hysbysu Gweinidogion Cymru. Er hynny, nid yw’r Rheoliadau’n gymwys i weithredwyr buchol ar raddfa fach sy’n cigydda llai na 150 o anifeiliaid buchol llawn-dwf yr wythnos ar gyfartaledd bob blwyddyn, oni bai eu bod yn dewis dosbarthu carcasau buchol (rheoliad 6); nac i weithredwyr lladd-dai lle y mae llai na 500 o foch glân yr wythnos yn cael eu cigydda, ar gyfartaledd bob blwyddyn (rheoliad 12).

Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer system drwyddedu i unrhyw un sy’n dosbarthu carcasau buchol drwy edrych arnynt ac ar gyfer trwyddedu lladd-dai sy’n defnyddio offer graddio awtomataidd i ddosbarthu’r carcasau hynny (rheoliadau 8 i 10). Mae torri gofynion y drwydded yn drosedd (rheoliad 29).

Rhaid i waith dosbarthu carcasau moch gael ei wneud drwy ddefnyddio dull graddio a awdurdodwyd a thechnegau graddio a weithredir gan bersonél cymwys (rheoliad 14). Mae torri’r gofyniad hwn yn drosedd (rheoliad 30). Yn lle marcio carcas mochyn, caniateir i weithredwr gadw cofnod o’i ddosbarthiad (rheoliad 15).

Mae’n ofynnol i weithredwyr lladd-dai cymeradwy gadw cofnodion ynglŷn â charcasau buchol a charcasau moch yn eu tro (rheoliadau 11 ac 16 ac Atodlenni 3 a 4).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau’n ymwneud â gorfodi, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phwerau swyddogion awdurdodedig, hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau cosb ac achosion troseddol. Mae rheoliadau 20(3) a 26 i 32 yn nodi’r troseddau o dan y Rheoliadau, y gellir cosbi pob un ohonynt ar euogfarn ddiannod â dirwy, ac eithrio troseddau o dan reoliad 31(2) neu (3) (marciau ffug).

Yn benodol, mae rheoliadau 26 a 27 yn darparu bod torri darpariaethau penodedig yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn drosedd, sef y darpariaethau eidion Ewropeaidd a nodir yn Atodlen 1 a’r darpariaethau moch Ewropeaidd a nodir yn Atodlen 2. Mae’r darpariaethau a bennir yn Atodlenni 1 a 2 yn cynnwys gofynion ynglŷn â chofnodi a hysbysu prisiau’r farchnad ar gyfer carcasau buchol a charcasau moch yn eu tro.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn gan fod y diwygiadau o natur dechnegol.