- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1826 (Cy. 198)) (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i ddiddymu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1249/2008 (OJ Rhif L 337, 16.12.2008, t. 3).
Mae’r Rheoliadau’n gorfodi’r canlynol—
Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671) ac Atodiad IV iddo, sy’n ymwneud â graddfeydd yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dosbarthu carcasau; a
Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 2017/1182 (OJ Rhif L 171, 4.7.2017, t. 74) (“Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn”); a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2017/1184 (OJ Rhif L 171, 4.7.2017, t. 103) (“Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn”) sy’n nodi rhagor o fanylion ynghylch rhoi’r graddfeydd hyn ar waith.
Mae’r Rheoliadau’n ymwneud â charcasau anifeiliaid buchol llawn-dwf (sef anifeiliaid sy’n wyth mis oed neu ragor) a moch.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr lladd-dai sy’n cigydda anifeiliaid buchol llawn-dwf neu foch hysbysu Gweinidogion Cymru. Er hynny, nid yw’r Rheoliadau’n gymwys i weithredwyr buchol ar raddfa fach sy’n cigydda llai na 150 o anifeiliaid buchol llawn-dwf yr wythnos ar gyfartaledd bob blwyddyn, oni bai eu bod yn dewis dosbarthu carcasau buchol (rheoliad 6); nac i weithredwyr lladd-dai lle y mae llai na 500 o foch glân yr wythnos yn cael eu cigydda, ar gyfartaledd bob blwyddyn (rheoliad 12).
Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer system drwyddedu i unrhyw un sy’n dosbarthu carcasau buchol drwy edrych arnynt ac ar gyfer trwyddedu lladd-dai sy’n defnyddio offer graddio awtomataidd i ddosbarthu’r carcasau hynny (rheoliadau 8 i 10). Mae torri gofynion y drwydded yn drosedd (rheoliad 29).
Rhaid i waith dosbarthu carcasau moch gael ei wneud drwy ddefnyddio dull graddio a awdurdodwyd a thechnegau graddio a weithredir gan bersonél cymwys (rheoliad 14). Mae torri’r gofyniad hwn yn drosedd (rheoliad 30). Yn lle marcio carcas mochyn, caniateir i weithredwr gadw cofnod o’i ddosbarthiad (rheoliad 15).
Mae’n ofynnol i weithredwyr lladd-dai cymeradwy gadw cofnodion ynglŷn â charcasau buchol a charcasau moch yn eu tro (rheoliadau 11 ac 16 ac Atodlenni 3 a 4).
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau’n ymwneud â gorfodi, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phwerau swyddogion awdurdodedig, hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau cosb ac achosion troseddol. Mae rheoliadau 20(3) a 26 i 32 yn nodi’r troseddau o dan y Rheoliadau, y gellir cosbi pob un ohonynt ar euogfarn ddiannod â dirwy, ac eithrio troseddau o dan reoliad 31(2) neu (3) (marciau ffug).
Yn benodol, mae rheoliadau 26 a 27 yn darparu bod torri darpariaethau penodedig yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn drosedd, sef y darpariaethau eidion Ewropeaidd a nodir yn Atodlen 1 a’r darpariaethau moch Ewropeaidd a nodir yn Atodlen 2. Mae’r darpariaethau a bennir yn Atodlenni 1 a 2 yn cynnwys gofynion ynglŷn â chofnodi a hysbysu prisiau’r farchnad ar gyfer carcasau buchol a charcasau moch yn eu tro.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn gan fod y diwygiadau o natur dechnegol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: