Cyhoeddwyd yr Offeryn statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un rhif ac fe’I dyroddir yn rhad ac am ddim I bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

2018 Rhif 1215 (Cy. 248)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi1.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi2 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli cyfeiriadau at y Rheoliadau a ganlyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—

Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol3;

  1. a

    Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol3;

  2. b

    Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 2017/1182 sy’n cydategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/213 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran hysbysu prisiau marchnad categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw4; ac

  3. c

    Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2017/1184 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran hysbysu prisiau marchnad categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw5.