Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629 (Cy. 225)) (“Rheoliadau 2006”) er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996 dyddiedig 19 Mai 2015 sy’n sefydlu dulliau cyffredin o asesu sŵn yn unol â Chyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 168, 1.7.2015, t. 1).
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dulliau cyffredin newydd o asesu sŵn fel y nodir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 sy’n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol (OJ Rhif L 189, 18.7.2002, t. 12) (“y Gyfarwyddeb”), fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996.
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio’r diffiniad o “Cyfarwyddeb” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006.
Mae rheoliad 2(3)(a) yn diwygio paragraff (3) o reoliad 4 o Reoliadau 2006 er mwyn ei gwneud yn ofynnol canfod gwerthoedd Lden, Lnight a dangosyddion sŵn atodol yn y safle asesu ac yn unol â’r fethodoleg yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.
Mae rheoliad 2(3)(b) yn mewnosod paragraff (3A) newydd yn rheoliad 4 o Reoliadau 2006, sy’n diffinio’r term “safle asesu” at ddibenion paragraff (3).
Mae paragraffau (4) a (5) o reoliad 4 o Reoliadau 2006, ac Atodlen 2 iddynt, wedi eu hepgor.
Mae rheoliad 2(5) yn hepgor y dangosydd sŵn atodol “LA10, 18h” yn Atodlen 3 i Reoliadau 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.