Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2018.
(3)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 20062.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(2) yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996”.
(3)
Yn rheoliad 4—
(a)
ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o “gyfrwng” hyd at y diwedd rhodder “gyfrifo (yn y safle asesu) a thrwy gyfrwng y dulliau asesu a nodir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.”;
(b)
“(3A)
Ym mharagraff (3), ystyr “safle asesu” yw’r uchder asesu ym mharagraff 7 o Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb.”;
(c)
hepgorer paragraffau (4) a (5).
(4)
Hepgorer Atodlen 2.
(5)
Yn Atodlen 3—
(a)
ym mharagraff 1, hepgorer y diffiniad o “LA10, 18h”;
(b)
hepgorer paragraff 2(a).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629 (Cy. 225)) (“Rheoliadau 2006”) er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996 dyddiedig 19 Mai 2015 sy’n sefydlu dulliau cyffredin o asesu sŵn yn unol â Chyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 168, 1.7.2015, t. 1).
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dulliau cyffredin newydd o asesu sŵn fel y nodir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 sy’n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol (OJ Rhif L 189, 18.7.2002, t. 12) (“y Gyfarwyddeb”), fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996.
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio’r diffiniad o “Cyfarwyddeb” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau 2006.
Mae rheoliad 2(3)(a) yn diwygio paragraff (3) o reoliad 4 o Reoliadau 2006 er mwyn ei gwneud yn ofynnol canfod gwerthoedd Lden, Lnight a dangosyddion sŵn atodol yn y safle asesu ac yn unol â’r fethodoleg yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb.
Mae rheoliad 2(3)(b) yn mewnosod paragraff (3A) newydd yn rheoliad 4 o Reoliadau 2006, sy’n diffinio’r term “safle asesu” at ddibenion paragraff (3).
Mae paragraffau (4) a (5) o reoliad 4 o Reoliadau 2006, ac Atodlen 2 iddynt, wedi eu hepgor.
Mae rheoliad 2(5) yn hepgor y dangosydd sŵn atodol “LA10, 18h” yn Atodlen 3 i Reoliadau 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.