Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2018
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2018 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2018.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Diwygio Rheoliadau 19922.
(1)
Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
(2)
Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
YR ATODLEN
“SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area
Prescribed figure
Blaenau Gwent
56,054
Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr
115,071
Caerphilly/Caerffili
142,461
Cardiff/Caerdydd
288,601
Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin
149,356
Ceredigion
60,755
Conwy
95,364
Denbighshire/Sir Ddinbych
75,794
Flintshire/Sir y Fflint
123,127
Gwynedd
100,332
Isle of Anglesey/Ynys Môn
56,365
Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful
47,217
Monmouthshire/Sir Fynwy
76,004
Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot
114,199
Newport/Casnewydd
117,014
Pembrokeshire/Sir Benfro
100,513
Powys
108,273
Rhondda Cynon Taf
189,215
Swansea/Abertawe
198,208
Torfaen
73,176
Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg
103,446
Wrexham/Wrecsam
106,331”
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un bresennol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.