Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2)
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Rhagfyr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2019.
(3)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017
2.
3.
“5.
At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw—
(a)
£12,000, neu
(b)
£100,000 pan fodlonir yr amodau gofal plant yn erthygl 8.”
4.
Yn erthygl 8(d), yn lle “£20,500” rhodder “£100,000”.
5.
Yn erthygl 11—
(a)
“Tabl
(1)
Erthygl
(2)
Gwerth Ardrethol
(£)
(3)
Swm E
7 (gwerth ardrethol)
0 i 6,000
5,000,000
7 (gwerth ardrethol)
6,001 i 12,000
Cyfrifir yn unol â pharagraff (3) o’r erthygl hon
8 (gofal plant)
0 i 100,000
5,000,000
9 (swyddfa bost)
0 i 9,000
5,000,000
9 (swyddfa bost)
9,001 i 12,000
2”
(b)
hepgorer paragraff (4).
Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n cael ei wneud o dan adrannau 43(4B)(b) a 44(9)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1229 (Cy. 293)) (“Gorchymyn 2017”). Mae Gorchymyn 2017 yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi annomestig (“y cynllun”) sy’n gymwys i gategorïau penodol o hereditamentau.
Effaith y diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yw eithrio pob hereditament sy’n bodloni’r amodau (“yr amodau gofal plant”) a nodir yn erthygl 8 o Orchymyn 2017 rhag talu ardrethi annomestig.
Caiff erthygl 5 o Orchymyn 2017 ei diwygio er mwyn cynyddu uchafswm y gwerth ardrethol ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant i £100,000. Golyga hyn bod pob hereditament sydd â gwerth ardrethol o £100,000 neu lai, sy’n bodloni’r amodau gofal plant, yn gymwys ar gyfer rhyddhad o dan y cynllun. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn cadw uchafswm presennol y gwerth ardrethol (o £12,000) mewn perthynas â hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol yn erthygl 7 a’r amodau swyddfa bost yn erthygl 9.
Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi E at ddibenion Deddf 1988. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio E i 5,000,000 ar gyfer pob hereditament sy’n bodloni’r amodau gofal plant. Effaith hyn, pan gaiff ei fewnosod yn y fformiwla o fewn adran 43(4A)(b) o Ddeddf 1988, yw eithrio pob hereditament sy’n bodloni’r amodau gofal plant rhag talu ardrethi annomestig. Mae erthygl 11(4) o Orchymyn 2017 wedi ei hepgor, sy’n cael yr effaith o ddileu’r cynllun rhyddhad wedi ei dapro blaenorol ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.