2018 Rhif 1188 (Cy. 242)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â mesurau sy’n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad agored a thryloyw â’r cyhoedd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Rhagfyr 2018.

Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 20112

Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 20114 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.

Diwygio rheoliad 23

Yn rheoliad 2(1)—

a

yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 653/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor5”;

b

yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Rhan I” hyd at “1234/2007” rhodder “Rhan 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol6”; ac

c

yn is-baragraff (d), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 565/20137”.

Diwygio rheoliad 44

Yn rheoliad 4—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn is-baragraff (a), hepgorer paragraffau (vii) ac (viii); a

ii

yn is-baragraff (c), yn y geiriau cyn paragraff (i), yn lle’r geiriau o “Reoliad” hyd at “1234/2007” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”;

b

ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “pwynt IV(2)” hyd at “1234/2007” rhodder “pwynt 4(2) o Ran 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 (O.S. 2011/991 (Cy. 145)) er mwyn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rheoliad (EU) Rhif 653/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 o ran adnabod anifeiliaid buchol yn electronig a labelu cig eidion (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 33).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn gan fod y diwygiadau o natur dechnegol.