Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1188 (Cy. 242)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

15 Tachwedd 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Tachwedd 2018

Yn dod i rym

7 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau sy’n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad agored a thryloyw â’r cyhoedd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) (Diwygio) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Rhagfyr 2018.

Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011

2.  Mae Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011(4) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.

Diwygio rheoliad 2

3.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 653/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor(5)”;

(b)yn is-baragraff (c), yn lle’r geiriau o “Rhan I” hyd at “1234/2007” rhodder “Rhan 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol(6)”; ac

(c)yn is-baragraff (d), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 565/2013(7)”.

Diwygio rheoliad 4

4.  Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), hepgorer paragraffau (vii) ac (viii); a

(ii)yn is-baragraff (c), yn y geiriau cyn paragraff (i), yn lle’r geiriau o “Reoliad” hyd at “1234/2007” rhodder “Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle’r geiriau o “pwynt IV(2)” hyd at “1234/2007” rhodder “pwynt 4(2) o Ran 1 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol”.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

15 Tachwedd 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 (O.S. 2011/991 (Cy. 145)) er mwyn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rheoliad (EU) Rhif 653/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 o ran adnabod anifeiliaid buchol yn electronig a labelu cig eidion (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 33).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn gan fod y diwygiadau o natur dechnegol.

(1)

O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/228 (OJ Rhif L 35, 10.2.2017, t. 10).

(5)

OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 33.

(6)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 2017/2393 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 350, 29.12.2017, t. 15).

(7)

OJ Rhif L 167, 18.6.2013, t. 26.